Osu Llus a Phomgranad

English | Cymraeg

Ein barn ar Osu Llus a Phomgranad.

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%
Calorïau per 100ml: 177

Efallai i chi weld hysbysebion teledu difyr diodydd finegr Osu tua chanol 2021. Yr awgrym yn y rheini oedd fod llawer o bobl Japan yn cyrraedd gwth o oedran ac yn ddigon sionc eu gwala trwy yfed finegr afalau. Mae’r dystiolaeth ynghylch manteision yfed finegr yn gymysg ac aneglur ond un peth sy’n eglur iawn fod llawer o bobl wrth eu bodd efo diodydd o’r fath. Felly, roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n hen bryd ni roi cynnig arnyn nhw, yn enwedig am eu bod nhw’n gwbl ddi-alcohol.

Mae’r ddiod Llus a Phomgranad yma’n dod mewn potel hyfryd iawn gyda blodau coed ceirios – un eiconau Japan. Mae’r ddiod ei hun wedi’i gwneud ym Mhrydain, ond yn tynnu ar ddau gan mlynedd o arbenigedd Japaneaidd. Diod dywyll yw hi, gyda lliw rhwng porffor a brown. Gan fod sudd llus a pomgranad ynddi hefyd, mae’n felysach na rhai diodydd finegr. Lle da i ddechrau, efallai, os yw’r holl fusnes finegr yma yn newydd i chi.

Mae’r gwneuthurwyr yn awgrymu cymysgu un gyfran o Osu gyda naw cyfran o ddŵr llonydd neu fyrlymus. Maen nhw hefyd yn argymell ei ddefnyddio mewn teisennau a phwdinau, ei dasgu dros salad, neu’i gymysgu mewn coctels. Fel pob un o’r diodydd finegr poblogaidd, mae hon yn cynnwys “y fam”: y bacteria sy’n troi alcohol yn asid asetig. Yn ôl y sôn, mae’r fath facteria probiotig yn dda i’n perfeddion ni; ond eto, mae’r dystiolaeth yn gymysg.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​