Patronus Weissbier

English | Cymraeg

Ein barn ar Patronus Weissbier

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 125 (25 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Efallai ei chi bod chi’n credu mai swyn o straeon Harri Potter yw Patronus. Eithaf gwir, ond mae hefyd yn gwrw o Lidl. Maen nhw’n gwerthu Patronus Weissbier o gryfder arferol a hefyd hwn, sy’n alkoholfrei. Dôn nhw ill dau mewn poteli deniadol (gyda llun bach o fynach cwrwgarol, fel cynifer o gyrfau’r Cyfandir).

Rhaid dweud nad cwrw eithriadol yw hwn. Fasech chi ddim yn brwydro trwy ddŵr a thân i gael gwydraid ohono. Ar y llaw arall, mae’n bell o fod yn annymunol. Mae gwynt brag neis arno fe, a lliw coch hyfryd. Mae blas Weissbier da arno; ac er ei fod e fymryn yn felys, dyw e ddim hanner more felys â’r Bavaria Wit, a dyw’r melystra ddim yn boddi’r blas.

Fel llawer cwrw o’r Almaen, dywedir bod hwn wedi’i greu yn unol â’r Reinheitsgebot – deddf Ganoloesol Bafaria ynghylch purdeb cwrw, sy’n dweud na ellir gwneud cwrw ond o ddŵr, barlys a hopys, heb ddim arall. Yn ôl y broliant ar y botel, mae hefyd yn isotonig, ac yn naturtrüb – gair Almaeneg rhagorol sy’n meddwl bod y ddiod i fod yn gymylog.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​