Pentire Coastal Spritz

English | Cymraeg

Ein barn ar Pentire Coastal Spritz - hawdd deall pam mae’r ddiod flasus yma mor boblogaidd.

Sgôr:

4/5

Cryfder: llai na 0%

Calorïau ymhob 100ml: 39

Mae’r coctel parod yma yn bleser ei yfed, gyda rhew mewn gwydryn neu’n syth o’r can.

Gwirod Coastal Spritz Pentire yw’r man cychwyn, gydag orenau coch, rhosmari’r môr, a rhisgl derw i greu cyfuniad perffaith o chwerwder a ffrwythusrwydd. Mae Pentire hefyd wedi gwneud y gwaith caled i chi trwy gymysgu’r wirod gyda dŵr pefriog, surop agafe a sudd oren.

Roedd ein panel profi wrth eu bodd gyda Coastal Spritz. Mae’n llawn hwyl a sbri a blas! A does dim o’r blasau artiffisial sy’n difetha rhai coctels di-alcohol.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​