Peroni Arancia Rossa

English | Cymraeg

Diod fywiog gyda lliw dwfn rhwng pinc a choch

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%

Calorïau ymhob 100ml: 22

Mae hon yn un o bâr o ddiodydd gan Peroni – ynghyd â chwrw gyda lemonau Sicilia – a lansiwyd mewn da bryd ar gyfer haf 2026.

Dyma ddiod fywiog gyda lliw dwfn rhwng pinc a choch, a dyw hi ddim yn rhy felys chwaith. Yn sicr, dyma ddiod ysgafn braf at y tywydd poeth, ond mae’n blasu’n nes o dipyn at ddiod orenau na chwrw. Os ydych chi’n chwilio am rywbeth gyda mwy o flasau cwrw amlwg, mae digon o opsiynau eraill ar y tudalennau yma i chi roi cynnig arnyn nhw.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​