Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 35
English | Cymraeg
Ein barn ar Picoso Tropical Mango.
Sgôr:
4/5
Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 35
Cwmni soda o safon yw Picoso, wedi’i sefydlu yn 2023 ac wedi’i ysbrydoli gan ddiodydd Sbaen a Mecsico. Wedi’i enwi ar ôl y gair Sbaeneg am “sbeisiog”, mae Picoso yn cynnig dewis di-alcohol beiddgar ac eang ei apêl.
Rhoddodd dau aelod o’n tîm staff gynnig ar y ddiod yma, a dyma eu barn.
Gyda’i blasau sbeisiog, roedd ein panel profi yn gytûn nad diod i’w llowcio’n gyflym yw hon; yn hytrach i’w llymeitian yn hamddenol. Roedden nhw ill dau’n meddwl bod y swigod mân sy’n codi o’r ddiod wrth ei thywallt yn arbennig o sbeisiog. Felly, gorau oll ei gadael i setlo am ennyd yn y gwydryn, efallai.
Ar ôl ei thywallt, mae’n felyn ei lliw a gweddol fyrlymus, gyda chymysgedd dymunol o flasau ffrwythus melys ac awch digamsyniol y pupurau habanero. Er bod tipyn o gic i’r ddiod, dyw hi ddim yn llethol o boeth. Peidiwch â bod yn nerfus os nad ydych chi’n hoff dros ben o sbeis – mae mwy o bethau yn y ddiod na hwnnw.
At ei gilydd, mae’r ddiod yma’n cynnig rhywbeth gwahanol i’r rhelyw o ddiodydd di-alcohol. Os ydych chi ar drywydd blasau beiddgar newydd, rhowch gynnig arni!
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.