Cryfder: 0%
Calorïau: wrthi’n aros gwybodaeth
English | Cymraeg
Os ydych chi’n hoff o magarita sbeislyd, byddwch chi wrth eich bodd
Sgôr:
4/5
Cryfder: 0%
Calorïau: wrthi’n aros gwybodaeth
Cwmni diodydd pefriog o ansawdd yw Picoso, wedi’i sefydlu yn 2023, wedi’i ysbrydoli gan ddiwylliannau diodydd cyffrous Sbaen a Mecsico, ac wedi’i enwi ar ôl y gair Sbaeneg am “sbeisiog”. Mae Picoso yn cynnig opsiwn di-alcohol eithaf beiddgar.
Diod nerthol yw hon. Soda eithaf mwyn gyda mymryn o leim yw’r argraff gyntaf, ond wedi ychydig o eiliadau, mae blas mawr y pupurau poeth yn dod drwodd. Yn sicr, diod i’w llymeitian yn araf yw hon, nid un i’w llyncu ar ei phen.
Os ydych chi’n hoff o magarita sbeislyd a diodydd tebyg, byddwch chi wrth eich bodd yn ymlacio efo hon gyda’r nos. Ond mae’r pupurau yma’n rhain cryf, felly, gan bwyll os nad yw sbeis at eich dant
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.