Playground IPA

English | Cymraeg

Ein barn ar Playground IPA.

Sgôr:

5/5

Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 106 (32 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Faint bynnag ei gryfder alcoholaidd, mae hwn yn gwrw rhagorol! Mae’n ddiod gampus, yn enwedig o gofio mai dau gyw-fragwr sydd wedi ei chreu – sefydlwyd bragdy Vanderstreek yn 2010 pan ddechreuodd y perchnogion Sander a Ronald fragu mewn fflat yn Utrecht.

Mae’n amhosibl meddwl am rywbeth negyddol i’w ddweud amdano. Mae’n gwrw cymylog gwych yr olwg, ac iddo arlliw orenaidd diddorol. Mae’n llawn hopys ond nid dyna’r un elfen i’r blas. Tasai fe ddim yn dweud ar y label ei fod yn ddi-alcohol, fasech chi byth yn ei wybod. Yn wir, mae sawl cwrw gwelw llawer cryfach sy’n blasu’n llawer salach.

Cawson samplau gan Morgengrot ym Manceinion, sy’n darparu cwrw i siopau a thafarndai. Gallwch chi ei brynu ar-lein gan Dry Drinker, a gobeithio’n fawr bydd e ar gael mewn llawer o archfarchnadoedd yn fuan!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​