Promises I Made Myself

English | Cymraeg

Ein barn ar Promises I Made Myself

Sgôr:

3/5

Cryfder: Llai na 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: wrthi’n aros gwybodaeth

Dyma adolygiad gan ein hawdur gwadd Hugh Davenport, sydd i’w gael ar Instagram fel Moderating Alcohol with Monty.

Mae’r cwrw gwelw di-alcohol yma wedi’i greu ar y cyd gan ddau fragdy bach: Newtown Park ym Mryste a Lowtide yn ninas gyfagos Caerfaddon. Dwi’n hoff iawn o’r enw ac yn gwerthfawrogi’r ymdrech i ychwanegu tipyn o hiwmor wrth enwi diodydd.

Dwi wedi yfed y cwrw yma ar dymheredd y stafell, fel byddaf i’n gwneud â chwrw fel arfer – yn fy mhrofiad i, mae oeri cwrw yn ormodol yn lladd blas yr hopys (er ei bod yn dweud ar y can “cadwch yn oer”). Fel llawer cwrw crefftus, mae hwn yn ymfalchïo ei fod ei heb ei basteureiddio a heb ei ffiltro. Efallai fod hynny’n esbonio pam mae’r cyfarwyddyd “yfwch yn ffres” hefyd ar ochr y can.

Dyma’r cwrw crefftus cymylog di-alcohol cyntaf i mi ei gael erioed, ac roedd e’n adfywiol iawn, yn enwedig ar ddiwrnod poetha’r flwyddyn. Rhaid dweud fy mod i’n ei chael hi’n anodd cael hyd i’r holl “papaia, mango and grawnffrwyth” mae’r bragwyr yn eu haddo, nes i mi bron â chyrraedd gwaelod y gwydryn, lle dechreuais i gael rhywfaint o’r blasau ffrwythus a’r “nodau resinaidd”.

At ei gilydd, mwynheais i fy antur gyntaf ym myd y cyrfau di-alcohol mwy crefftus a mwy ffasiynol. Ydy Newtown a Lowtide yn gallu dod ag elfen grefftus newydd i fragu di-alcohol? Mae eu mentergarwch yn hyn o beth wedi fel ysbrydoli i’r fath raddau fel y byddaf i yn pigo i mewn i fy siop gwrw crefftus lleol i holi pa gyrfau di-alcohol maen nhw’n eu hawgrymu.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​