Proper Job IPA

English | Cymraeg

Ein barn ar Proper Job IPA.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 21

Bragdy annibynnol sydd hen ennill ei blwyf yng Nghernyw yw un St Austell – neu Bragji Sans Austel yn Gernyweg. Maen nhw’n fwyaf adnabyddus am eu cwrw gwelw arall, Tribute, ond mae Proper Job yntau yn ddiod boblogaidd iawn. Felly, pan ymddangosodd fersiwn newydd yn 2024 gyda chryfder o 0.5%, roedd rhaid i ni roi cynnig arno.

Mae’r ddiod wedi’i phecynnu’n rhagorol, gyda diwyg glas twt sy’n awgrymu mai cwrw o safon yw hwn – a dyna’n union yw e. Yn wir, cwrw gwirioneddol dda yw hwn. Yn lle cael ei fragu i 4% neu 5% ac wedyn ei ddad-alcoholeiddio, cafodd ei greu’n ofalus hyd at gryfder o 0.5% cyn rhoi stop ar yr eplesu. Mae ganddo liw euraidd hyfryd, arogl dymunol, a blas glân. Mae’n chwerw ond heb fod yn rhy chwerw. Yn ôl pob tebyg, dyna’r cwrw gwelw di-alcohol gawson ni erioed.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​