Rheinbacher Pilsner

English | Cymraeg

Ein barn ar Rheinbacher Pilsner

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 76 (15 ymhob 100 ml)
Sgôr: 4 o 5

Tref fach yn ngorllewin pell yr Almaen yw Rheinbach – mor orllewinol nes iddi fod yn rhan o Ffrainc ar un adeg. Mae hi’n enwog am greu gwydr crefftus ac yn gartref i’r cwrw bach diymhongar yma, sydd ar werth yn Aldi yn y wlad yma.

Mae Aldi yn adnabyddus fel siop ddiffwdan, ac mae’r cwrw yma’n dod mewn potel ddiffwdan gyda label syml yn dweud yn blaen beth sydd tu fewn, sef cwrw di-alcohol Almaenig ei naws. Mae ganddo arogl dymunol, lliw euraidd hyfryd, a blas dwfn. Mae’n fwy tebyg i weißbier na lager, o bosib, ond mae’n ysgafn, adfywiol a hawdd ei yfed.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​