Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 65
Mae broliant y botel yn dweud bod hwn yn cyd-fynd yn dda efo prydau Asiaidd sbeisiog. Yn ein profiad ni, mae hefyd yn gydymaith gweddus i farbeciw – a thymor y barbeciws yw tymor y gwin pinc, rhaid dweud.
Mae ganddo liw da, ac er ei fod braidd yn felys, dyw’r melystra ddim yn llethu’r blas. Mae Sainsbury’s rhoi sgôr o 5 iddo ar eu graddfa melystra o 1 hyd 9, ac mae hynny’n swnio’n eithaf cywir.