Saint Bertin Shandy

English | Cymraeg

Ein barn ar Saint Bertin Shandy.

Sgôr:

4/5

Cryfder: <0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 21

Cawson ni’r siandi braf yma yn Lidl yn ystod haf poeth 2023, ac roedden ni’n falch iawn o’i chael! Hyfryd iawn yw cael siandi sydd heb fod yn rhy felys, ac mae hwn yn debycach i gwrw gyda siot o lemwn ffres na chymysgedd o lager a lemonêd. Wedi’i oeri’n dda, mae’n ddelfrydol at brynhawn twym!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​