Sangre de Toro

English | Cymraeg

Mae gan y gwin ei hun arogl ffrwythus braf a lliw coch cynnes.

Sgôr:

4/5

Cryfder: llai na 0.0%

Calorïau ymhob 100ml: 20

Un o’r cwestiynau glywn ni’n fwyaf aml yw “Allwch chi awgrymu gwin coch di-alcohol da?”. Rydyn ni, felly, wastad yn cadw golwg am winoedd o’r fath. Pan welsom ni botel dwt y gwin 0.0% yma o Sbaen, roedden ni’n lled obeithiol.

Mae e wedi’i gyflwyno’n dda gyda diwyg coch ac arian deniadol i’r label. Mae gan y gwin ei hun arogl ffrwythus braf a lliw coch cynnes. Mae ganddo flas gwin coch da, gydag ychydig o flas mwyar duon. Byddai’n cyd-fynd yn dda gyda chaws cryf, mae’n debyg. Gwerth rhoi cynnig arno, yn sicr, os ydych chi ar drywydd rhywbeth di-alcohol i’w gael yn lle eich hoff win coch.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​