Savyll Bellini

English | Cymraeg

Ein barn ar Savyll Bellini.

Sgôr:

2/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob potelaid: 82 (33 ymhob 100ml)
Sgôr: 2 o 5

Dyma adolygiad gan ein hawduron gwâdd Adela Meer a Susan Laurie

Crëwyd coctels Savyll gan Avnish Babla, darpar-dad oedd am fyw yn iachach ond hefyd dal i fwynhau diodydd soffistigedig.

Fel holl goctels Savyll, diod wych yr olwg yw’r Bellini yma. Mae ganddi liw neis ac arogl eirin gwlanog da. Mae’n annisgwyl o fyrlymus ac roedd ein dau flaswr yn ei gweld yn diod eithaf melys: “fel sudd ffrwythau” yn ôl, ac fel “lemonêd eirin gwlanog”.

Roedd ein dau adolygwr yn anghytuno o ran y sgoriau roddon nhw: tri phwynt allan o bump gan un, a chwta un allan o bump gan y llall. Felly, fe roddon ni sgôr o ddau iddi yn y diwedd.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​