Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 71 (28 ymhob 100 ml)
Sgôr: 4 o 5
Savyll Paloma Tequila
English | Cymraeg
Ein barn ar Savyll Paloma Tequila
Sgôr:
4/5
Dyma adolygiad gan ein hawduron gwâdd Adela Meer a Susan Laurie
Crëwyd coctels Savyll gan ddarpar-dad oedd am fyw yn iachach ond hefyd dal i fwynhau diodydd soffistigedig. Mae’r Paloma Tequila yma un o bedair diod greodd e.
Roedd ein dau flaswr yn mwynhau’r ddiod yma, gan ei chael yn nerthol ac adfywiol. Mae ganddi flasau grawnffrwyth a sierbet, yn ogystal ag awgrym o tecila (er nad oes yma ddim alcohol o gwbl). Mae’n rhosliw rhagorol, ac at ei gilydd yn ddiod foddhaol a ffres. Mae’n dod mewn potel wydr neis gyda chapan copr twt. Dywedodd un adolygwr y byddai’n dda ar gyfer ciniawau busnes a bwytai arobryn.
Roedd ein dau adolygwr yn anghytuno o ran y sgoriau roddon nhw: pum pwynt allan o bump gan un, a thri allan o bump gan y llall. Felly, fe roddon ni sgôr o bedwar iddi yn y diwedd. Fel pob tro, bydd rhaid i chi farnu drosoch chi’ch hunan.
Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.