Schweppes Aperitivo Spritz

English | Cymraeg

Ein barn ar Schweppes Aperitivo Spritz.

Sgôr:

4/5

Cryfder: llai na 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 20

Ffefryn gan Eidalwyr yw aperitivo, sydd i fod i lanhau’r geg cyn pryd o fwyd.

Y ffordd hawsaf i ddifetha coctel aperitivo yw ei wneud e’n rhy felys. Dyna’r union beth dyw Schweppes ddim wedi ei wneud yn fan hyn. Mae’n ddiod ffrwythaidd heb fod yn siwgraidd, ac mae chwerwder yr adflas yn taro’r nod i’r dim. Os ydych chi’n hoff o aperitivo Eidalaidd traddodiadol, rhowch gynnig ar hwn.

Daw’r ddiod mewn can gyda diwyg clasurol o syml Schweppes, sy’n rhoi rhyw naws lled foethus iddi.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​