Schweppes Blueberry Mojito

English | Cymraeg

Ein barn ar Schweppes Blueberry Mojito

Sgôr:

4/5

Cryfder: llai na 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 19

Rhaid dweud yn gyntaf oll mai diod wych yr olwg yw hon. Mae gan y can ddiwyg clasurol o syml Schweppes, sydd heb ei newid fawr ddim ers yr 1970au.

Doedden ni ddim yn sicr iawn a ddylai mojito gynnwys llus, ond mae hon yn pasio’r prawf cyntaf am mojito gan fod ganddi arogl a blas pendant mintys. Mae hi fymryn yn felys, ond coctel melys yw mojito yn aml iawn. Wedi’i hoeri’n dda gyda sbrigyn o fintys ffres, mae’n adfywiol braf.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​