Sevilla Red Sansgria

English | Cymraeg

Ein barn ar Mocktails Sevilla Red Sansgria .

Sgôr:

5/5

Coctels Swyddogol Ionawr Sych 2022

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob potelaid: 80 (40 ymhob 100ml)
Sgôr: 5/5

Mae cwmni Mocktails yn defnyddio grawnwin o Ffrainc, yr Eidal a Sbaen, ynghyd â pherlysiau a sbeisiau, er mwyn creu eu fersiwn nhw o Sangria.

Dyma ddiod fywiog iawn sy’n gwneud i chi feddwl yn syth am ddeheudir Sbaen. Mae’n llyfn, gyda blasau bras a dwfn, gan greu moctel ffrwythus a dwys. Mae awgrym o sbeis, heb fod yn ormodol, gan adael i holl flas a bywiogrwydd y Sangria ddod drwodd, ond heb yr alcohol. Mae ganddi hefyd liw porffor dwfn ysblennydd.

Gallwch chi brynu eich Mocktails yma, ac os defnyddiwch chi’r ddolen yma cewch chi ddisgownt o 20% hyd at 1 Chwefror 2022

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​