Sea Arch

English | Cymraeg

Ein barn ar Sea Arch.

Sgôr:

2/5

ABV: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 0
Sgôr: 2 o 5

Tasem ni’n rhoi gwobrau i’r diodydd harddaf, hon fyddai’r enillydd bob tro. Mae siâp a lliwiau’r botel yn unigryw – gyda gwahanol arlliwiau glas a’r mymryn lleiaf o aur. Rhan yw’r diwyg trawiadol o gysyniad morwrol benigamp, yn pwysleisio gwreiddiau’r ddiod yn arfordir Dyfnaint. Ymhlith y cynhwysion arfordirol mae gwymon a chwyn hallt.

Yn anffodus, doedd y blas ddim at ein dant i’r un graddau. Ein camgymeriad ni, o bosib, oedd disgwyl diod debyg i jin; ac mae Sea Arch yn bell o honno. Mwy blodeuog o dipyn yw hi, heb flas meryw amlwg o gwbl. Ond, os ydych chithau yn un o’r miloedd o bobl sy’n gwario eu ceiniogau ar yr amrywiaeth fawr o jiniau anhraddodiadol sy’n llenwi’r farchnad y dyddiau hyn, efallai mai hon fydd y ddiod ddi-alcohol i chi! Cewch chi ei phrynu hi’n syth oddi wrth y cynhyrchwyr.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​