Shorebreak Hazy Pale Ale

English | Cymraeg

Ein barn ar Shorebreak Hazy Pale Ale.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob can: 26

Dyma adolygiad gan ein hawdur gwadd Adam Stokes o’n tîm ymgysylltu a chodi arian

Wedi’i sefydlu yn 2012, mae bragdy Firebrand yn creu cwrw yn nhref Launceston – neu Lannstevan yn Gernyweg – ac maen nhw’n ymfalchïo’n fawr yn eu gwreiddiau yn Kernow – gyda brân goesgoch yn poeri tân ar ochr pob can.

Shorebreak yw eu cwrw prin-ei-alcohol cyntaf, ac mae e’n un da. O’r llymaid cyntaf mae’n llawn blas! Mae sawr hopys hefyd, fel byddech chi’n ei ddisgwyl mewn cwrw gwelw, gyda blas sitrws yn dynn ar ei sodlau. Yn ôl y broliant ar y can, mae’n llawn blasau trofannol, a chefais i rywfaint o hynny hefyd. Yn fy marn i, dyw e ddim mor ysgafn ag mae’r gwneuthurwyr yn honni – mae’n rhy sawrus am hynny – ond mae hi’n ddiod ffres ac adfywiol sy’n addas at ddiwrnod o haf. A fyddech chi’n byth yn gwybod o’i flas fod cyn lleied o alcohol ynddo.

Mae cynllunwyr y can wedi mynd am ddiwyg eithaf hipster gyda label papur, ac mae’n gweithio’n dda. Mae’r tonnau gwyrdd llachar sy’n nadreddu o gwmpas y can yn drawiadol ac yn dwyn i gof ewyn y môr yn torri ar draethau Cernyw! Mae’r lliwiau at ei gilydd yn wych – sydd, o bosib, yn angenrheidiol erbyn hyn i ddiod o’r fath, gan fod cymaint o fragdai eraill yn mynd am liwiau beiddgar ar eu caniau.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​