Sipling Old Cuban

English | Cymraeg

Ein barn ar Sipling Old Cuban.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob potelaid: 112 (45 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Er gwaetha’r enw, dyw’r Old Cuban ddim yn ddiod arbennig o hen mewn gwiri. Yn ôl y gwybodusion, cafodd ei dyfeisio gan Audrey Saunders yng Nghlwb Pegu, Efrog Newydd, rhywbryd ar ôl 2005. Amrywiad yw hi ar y Mojito traddodiadol – gyda rym tywyll o dras yn lle’r rym gwyn arferol, a gan ychwanegu ambell ddiferyn o wirod chwerw Angostura.

Crëwyd y fersiwn di-alcohol newydd yma yn Llundain gan Sipling. Maen nhw’n addo blasau rym sbeisiog, Prosecco, mintys a leim. Beth bynnag sydd ynddi hi, roedden ni wrth ein bodd! Mae iddi liw euraidd cymylog sy’n ennyn chwilfrydedd yr yfwr, mymryn o fintys ond dim gormod, a thamaid bach o sbeis. Braf iawn!

Cewch chi ei phrynu yn syth o Sipling, naill ai ar ei phen ei hunan neu fel rhan o becyn profi o chwe diod wahanol. Mae’n siŵr o fod ar gael mewn mannau eraill ymhen tipyn.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​