Sipsmith Freeglider

English | Cymraeg

Ein barn ar Sipsmith Freeglider

Sgôr:

3/5

Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 2
Sgôr: 3 o 5

Distyllwyr cymharol newydd yw Sipsmith ond mae eu poteli trawiadol gyda llun o alarch urddasol – am fod eu distyllfa yn sefyll ar lannau Afon Tafwys – i’w cael mewn siopau a thafarndai led-led y wlad. Maen nhw wedi gwneud jin gydag orenau, lemonau, mefus, a the hyd yn oed. Bellach, maen nhw wedi creu jin heb alcohol.

Lansiwyd Sipsmith FreeGlider yn 2021 a buon nhw wrthi’n hir yn ei greu – buodd Sipsmith yn arbrofi â 189 o fersiynau a mwy na 100 o gynhwysion. Maen nhw’n addo “blasau sitrws bywiog ac awchus, wedi’u cydbwyso gan wres pupur poeth”.

Roedd ein panel profi yn mwynhau’r ddiod ond rhaid dweud eu bod nhw’n ei chael hi’n brin o gic. Mae yma flas sitrws ddymunol, yn enwedig wedi ei chymysgu â thonic, ond does fawr ddim meryw, a chawson nhw ddim gwres chwaith. Mae’n ddiod bleserus ond mae cymaint o ddiodydd eraill yn yr un categori sy’n fwy cofiadwy.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​