Stella Artois Alcohol Free

English | Cymraeg

Ein barn ar Stella Artois Alcohol Free

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 59 (18 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Mae llawer o bobl yn hoff iawn o Stella Artois. Ac mae llawer o bobl eraill braidd yn snobyddlyd amdano. Pawb at y peth y bo, dwedwn ni. Ac os ydych chithau ymhlith caredigion lu Stella Artois, mae’n weddol sicr bydd y cwrw di-alcohol newydd yma yn eich plesio.

Gan fod y bragwyr wedi ceisio cadw mor agos â phosibl at ddiwyg eu cwrw arferol, mae’n weddol eglur mai eu cwsmeriaid ffyddlon sydd am yfed ychydig llai o alcohol yw’r farchnad maen nhw’n anelu ati. Felly, os Stella yw eich dewis ddiod arferol, efallai dylech chi roi cynnig ar hwn.

Mae’n dod mewn pecyn twt o bedair potelaid gyda handlen, ac mae ar gael mewn nifer o’r prif siopau bwyd.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​