Stillers Celtic Myst

English | Cymraeg

Ein barn ar Stillers Celtic Myst

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob 100ml: 0
Sgôr: 3 o 5

Buom ni’n blasu a barnu diodydd o’r Alban, Lloegr a Denmarc ar y tudalennau hyn. Hyd y gwyddom ni, hon yw’r wirod ddi-alcohol gyntaf o Gymru – o ddistyllfa’r Hen Gerbyty yn Nhrefynwy.

Mae naws y ddiod yn Geltaidd iawn – gyda cheffyl gwyn ar y label, yn dwyn i gof anifeiliaid hudolus chwedlau Canoloesol y Mabinogi – a dŵr ffynnon Cymru yw’r cynhwysyn cyntaf. Diod eithaf blodeuog, debyg i jin, yw hon, gyda meryw ond hefyd sitrws a mymryn bach o rosmari. Diod fwy cymhleth na Jin Llundeinig draddodiadol yw hi, ac os ydych chi yn un o’r miloedd o bobl sy’n gwario eu ceiniogau ar yr amrywiaeth fawr o jiniau anhraddodiadol sy’n llenwi’r farchnad y dyddiau hyn, efallai mai hon fydd y ddiod ddi-alcohol i chi.

Mae’r distyllwyr yn dweud nad oes yr un diferyn o alcohol yn rhan o’r broses o greu’r ddiod. Yn ôl pob golwg, mae hi hefyd yn gwbl ddi-galori!

Cawson ni ein Celtic Myst, a’i chwaer-ddiod Silk Roots, yn syth o’r ddistyllfa.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​