Strykk Not G*n

English | Cymraeg

Ein barn ar Strykk Not G*n

Sgôr:

3/5

Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 7

Mae Strykk Not G*n yn cael ei marchnata fel dewis amgen di-alcohol i’w yfed yn lle jin sych Llundeinig, ond mae’n bell o fod yn draddodiadol. Nid meryw yw’r unig berlysieuyn ynddi; mae yma hefyd goriander, saets, a basil. Os ydych chi’n chwilio am ddiod sy’n blasu fel jin hen-ffasiwn, efallai nad dyma’r dewis gorau i chi; mae hi dipyn bach yn rhy flodeuog. Ond, ar y llaw arall, os ydych chi am arbrofi fymryn, efallai dylech chi roi cynnig arni.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​