Super Bock Stout

English | Cymraeg

Cwrw du hen-ffasiwn

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 26

Un o hoff fragdai Portiwgal yw Super Bock, ac mae eu cwrw du di-alcohol ar werth yn y wlad yma hefyd ers blynyddoedd lawer. Dyma ddiod dywyll, fywiog, gyda digon o ewyn sy’n para. Roedd hi’n atgoffa ein panel profi o gyrfau du hen-ffasiwn fel Guiness Extra.

Mae’n chwerw ac ysgafn. Does ganddo ddim o’r blasau coffi a siocled cymhleth gewch chi mewn ambell gwrw du mwy modern. Os ydych chi’n chwilio am gwrw du fel oedd e erstalwm, rhowch gynnig ar hwn.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​