Tesco Pink G gyda Lemonêd

English | Cymraeg

Ein barn ar Tesco Pink G gyda Lemonêd.

Sgôr:

3/5

Cryfder: llai na 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 2

Cawson ni’r coctel parod yma yn Tesco tua canol 2024, wrth i’r tywydd ddechrau cynhesu.

Dyma ddiod fywiog sy’n byrlymu wrth ei thywallt. Mafon a mefus yw’r prif flasau, gyda mymryn o feryw. Os ydych chi fel arfer yn dewis tonic i’w gymysgu gyda jin, efallai bydd y ddiod yma fymryn yn rhy felys i chi. Os yw coctels mwy melys at eich dant, rhowch gynnig arni. Mae hi hefyd yn rhyfeddol o brin o galorïau.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​