Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob 100ml: 34
Dyma’r ail seidr di-alcohol gan gwmni Thatchers o Wlad-yr-Haf. Roedd eu cynnig cyntaf yn seidr traddodiadol. Un pur wahanol yw hwn.
Rhaid dweud, mai diod hyfryd yr olwg yw hi, gyda lliw oren-goch trawiadol, ac mae’n dod mewn potel ddeniadol, drwsiadus. O ran ei blas, mae’n crwydro’n bell o flasau seidr arferol. Un rheswm yw ei fod wedi'i wneud ag afalau melys yn lle afalau seidr surach. At hynny, mae blas yr orenau cyn gryfed â blas yr afalau, os nad cryfach.
Os ydych chi ar drywydd seidr hen-ffasiwn gyda min iddo, dim dyma’r ddiod i chi. Os yw diodydd ffrwythus lled felys at eich dant, dylech chi roi cynnig ar hon.