Ticket Pale Ale

English | Cymraeg

Ein barn ar Ticket.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 11

Ar ôl blasu cannoedd (gwir y gair) o ddiodydd di-alcohol ar gyfer y wefan yma, daethon ni at un casgliad: os ydych chi am greu cwrw heb alcohol, gwell i roi rhywbeth arall ynddo i’w wneud e’n gofiadwy. Yn sicr ddigon, cwrw i’w gofio yw hwn. Yn wahanol i bob un arall (hyd y gwyddon ni) mae e wedi’i wneud gyda saffron a lafant.

Mae’n dod mewn poteli a chaniau ragorol yr olwg: porffor ac aur gyda phatrwm troellog fel tonnau electromagnetig. Mae’r saffron yn rhoi i’r cwrw liw melyn digyffelyb. Mae digon o hopys sitrws ac mae’r lafant yn ychwanegu nodau blodeuog. Efallai bydd y ddiod yma dipyn bach yn ormod i chi os ydych chi’n chwilio am gwrw ysgafn syml – un yw e, yn sicr, i’r sawl sy’n gwerthfawrogi cyrfau gwelw gyda blasau mawr.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​