Ticket Lager

English | Cymraeg

Antur o sawrau a lliwiau Asiaidd

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob potelaid: 36

Ambell waith, mae ambell ddiod eithriadol, a dyma un o’r fath eithriadau. Cwrw melyn yw e, wedi’i drwytho mewn saffron a lemonwellt – yn wir, wedi’i lwytho â llond trol o’r ddau berlysieuyn. Dyma antur o sawrau a lliwiau Asiaidd – diod felyn dros ben yw hi oherwydd y saffron. Maen nhw’n flasau fydd yn fwy cyfarwydd i chi mewn bwydydd na diodydd, efallai, ond maen nhw’n gweithio’n annisgwyl o dda mewn cwrw.

Mae’n ddi-glwten ac yn addas i feganiaid, sy’n sicr o ehangu ei apêl. Rhaid i chi roi cynnig arno!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​