Torres Natureo Syrah

English | Cymraeg

Ein barn ar Torres Natureo Syrah

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 80 (240 ymhob potel)
Sgôr: 4 o 5

Lansiwyd gwin gwyn di-alcohol cyntaf Torres yn 2008. Nid tan 2013 ymunodd coch a rosé â’r criw. Ddylen ddim synnu – anodd ar y naw yw gwneud gwin coch di-alcohol da. Yn ôl Miguel Torres Maczassek, dyfais chwyldroadol o’r enw’r Golofn Conau Troellog yw’r gyfrinach. Mae’n tynnu’r alcohol heb ddifetha’r blas, meddan nhw.

Yn yr achos yma, efallai fod rhywfaint o wirionedd yn hynny. Mae hwn yn edrych fel gwin, yn gwynto fel gwin, ac yn blasu bron fel gwin. Mae ganddo liw da ac awgrym o fwyar duon yn y blas. Ac yn ein profiad ni, mae’n cyd-fynd yn dda gyda spaghetti bolognese.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​