Wild Idol – gwyn a rhosliw

English | Cymraeg

Ein barn ar Wild Idol - white and rosé.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 24 yn y gwyn, 25 yn y rhosliw

Cafodd y ddeuawd yma o winoedd pefriog ei lansio yn 2022. Buon ar y gweill am ddwy flynedd cyn hynny, wrth i’r gwneuthurwyr deithio’r byd yn chwilio am y cynhwysion gorau a’r cynhyrchwyr gorau i gydweithio â nhw, cyn dewis yn y diwedd grawnwin Dornfelder, Merlot a Müller-Thurgau o dde-orllewin yr Almaen.

Yn wahanol i’r rhan fwyaf o winoedd di-alcohol, maen nhw heb gael eu dad-alcoholeiddio – fuodd dim alcohol ynddyn nhw erioed. Ar ôl i’r grawnwin gael eu gwasgu, mae’r sudd yn cael ei gadw’n oer er mwyn ei gadw rhag eplesu, ac wedyn yn cael ei gymysgu gyda dŵr clir a finegr gwin. Mae’r broses yn esgor yn ddwy ddiod ddymunol iawn ar gyfer eu yfed yn lle gwin pefriog. Mae ganddyn nhw ill dwy arogl da a chymhleth – gyda mymryn o sbeis cynhesol – ac mae blas y ddwy ddiod yn sych gydag adflas miniog braf. Maen nhw’n fyrlymus ond heb fod yn orlawn swigod. Am £35 y botelaid, maen nhw, yn sicr, yn nghategori y diodydd drud. Ydyn nhw’n haeddu’r y fath bris? Dim ond chi all farnu hynny.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​