Wolf Blass Sauvignon Blanc

English | Cymraeg

Ein barn ar Wolf Blass Sauvignon Blanc.

Sgôr:

3/5

Cryfder: llai na 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 18

Nid yw gwinoedd prin-eu-halcohol wedi ffynnu i’r un graddau â chwrw a choctels dirwestol. Un rheswm dros dwf araf y farchnad yw bod gwinoedd o’r fath yn eithriadol o anodd eu gwneud yn dda. Er hyn i gyd, mae’r prif gynhyrchwyr yn dal i fentro cynnig gwinoedd yn y categori yma, gan gynnwys Sauvignon Blanc yma gan un o gwmnïau gwin mwyaf Awstralia.

Mae ganddo arogl gwin gwyn da – ffrwythus gydag awgrym o furum. Yn wahanol i lawer o winoedd 0.5%, dyw hwn ddim yn rhy felys, yn sicr. Os rhywbeth, roedd e dipyn yn rhy sur ym marn ein panel profi, gydag adflas fel crabas, oedd yn mynd yn llethol yn y diwedd. Mae’r cynhyrchwyr yn dweud ei bod yn ddiod “cras gyda nodau brwd”. Os yw gwin sych iawn at eich dant, efallai byddwch chi’n hoffi hwn.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​