Zeno Viura

English | Cymraeg

Dewis da i bob un sydd am yfed llai o alcohol heb golli pleserau gwydraid da o win.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.3%

Calorïau ymhob 100ml: 9

Roedd ein panel profi wedi’u siomi ar yr ochr orau gan ffresni a blas y gwin gwyn hawdd-ei-yfed yma, sy’n ddewis da i bob un sydd am yfed llai o alcohol heb golli pleserau gwydraid da o win.

Mae Zeno Viura yn rhoi arogl glân a deniadol, tebyg i Pinot Grigio. Mae’n taro’r trwyn yn ysgafn a ffrwythus, ac mae’r blasau sitrws sy’n dod wedyn yn dilyn yr un trywydd. Yn y geg, mae’n teimlo’n drwchus a thrwm – teimlad sy’n cael ei golli yn aml wrth dynnu’r alcohol o win. Mae’n cyd-fynd yn dda efo prydau ysgafnach fel pysgod neu salad, ond mae’n gallu dal ei dir ochr yn ochr â bwydydd brasach – peth arall nad yw pobl gwin di-alcohol yn gallu ei wneud.

At ei gilydd, gallwn ni ddweud yn hyderus fod Zeno Viura yn ddiod benigamp i bwy bynnag sydd am osgoi alcohol ond mwynhau gwin o hyd.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​