Zera Chardonnay

English | Cymraeg

Ein barn ar Zera Chardonnay.

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 50 (20 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Pan gyhoeddodd y cwmni bwydydd iachus Holland and Barrett yn 2019 y bydden nhw’n decrhau gwerthu cwrw a gwin di-alcohol, arwydd arall oedd e o faint mae’r farchnad yma’n tyfu o hyd. Un o gonglfeini eu hoffrwm i ddiotwyr dirwestol yw’r Chardonnay byrlymus yma gan Piere Chavin o Béziers yn ne Ffrainc ger glannau Môr y Canoldir.

Rhaid cydnabod bod Chardonnay dan y lach ers tipyn erbyn hyn, fel y ddiod roedd Bridget Jones yn ei slotian fesul potelaid yn yr 1990au. Ond, a dweud y gwir, grawnwinen bur barchus yw hi o hyd ac yn sylfaen i sawl gwin pefriog o safon, Champagne yn enwedig.

Felly, ai diod o safon yw hon? Mae’n dibynnu beth yw eich safonau. Daw mewn potel brydferth gyda label hipïadd annwyl. Yn ogystal â bod yn gwbl ddi-alcohol, mae hefyd yn figanaidd, organig a halal. Mae blas ffrwythus neis iddi – melon, sierbet, neu eirin gwlanog, doedd ein panel profi ddim yn siŵr pa un. Roedd pawb yn cytuno mai diod hafaidd hyfryd yw hi, ond nad yw hi’n arbennig o debyg i win. Felly, os ydych chi’n chwilio am ddiod ysgafn ffrwythaidd, cerwch ymlaen. Os oes arnoch chi eisiau rhywbeth fel eich hoff win pefriog ond heb yr alcohol, ein cyngor ni i chi yw i chi graffu ar rai o’r adolygiadau eraill ar y tudalennau yma.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​