Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 86 (26 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5
Diod fach annisgwyl oedd hon, wedi’i phentyrru ynghanol ein Aldi lleol gyda phob math o bethau annisgwyl eraill.
Mae cyrfau ffrwythaidd yn llawer mwy poblogaidd ar y Cyfandir nac ym Mhrydain, ac mae’r pecyn yn adlewyrchu hynny, gan ddwyn i gof gwyliau haf ar draethau Ewrop. Mae’r ddiod ei hunan yn hanu o Ffrainc, ac yn gynnyrch bragdy Brasserie Licorne.
Wrth agor y botel, mae’n gwynto fel grawnffrwyth coch. Wrth ei dywallt i wydryn, mae golwg sudd grawnffrwyth coch arno. Ac o ran y blas, blas grawnffrwyth coch sy’n drech na phob dim arall. O graffu ar y cynhwysion, dim ond 12% ohono sy’n gwrw di-alcohol. Felly, efallai ddylen ni ddim synnu ’fod e mor rhyfeddol o rawnffrwythus.
At ei gilydd, mae hon yn ddiod ffrwyth ddymunol iawn, ac yn llawer gwell na’r rhan fwyaf o’r “diodydd ysgafn i oedolion” gewch chi yn y siopau. Dyw e ddim yn rhy felys, ac mae blas hyfryd o naturiol iddo. Mae’n bell o fod yn gwrw, ond dyw e ddim yn ddrwg o gwbl.