Älska Zesty Lemon Cider

English | Cymraeg

Ein barn ar Älska Zesty Lemon Cider

Sgôr:

2/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob 100ml: 33

Dyma adolygiad gan awdur gwadd, ein Rheolwr Codi Arian ac Ymgysylltu, Sven Stears

Fel arfer, mae gallu Aldi i ganfod cynnyrch a’u copïo yn un o’u cryfderau. Wrth gwrs, mae’n dibynnu os ydych chi’n hoffi’r hyn maen nhw’n trio ei gopïo. I fi, y broblem am ddynwared seidrau ffrwythus o Sweden yw eu bod nhw mor felys fel nad yw’r rhai alcoholaidd hyd yn oed yn blasu o fawr ddim ond siwgr.

Mae’r ffurfiau di-alcohol ar seidrau Swedaidd eraill yr un peth: llawer o siwgr a rhyw flasau ffrwythus aneglur, heb ddim o gynildeb seidr afalau traddodiadol. Does dim byd yma na chewch chi o lemonêd gymylog. Felly, i bwy mae’r ddiod yma? Mae hi ar gyfer pobl sy’n mwyhau seidrau ffrwythus melys o Sweden. I fi, byddai sudd ffrwythau ffres neu lemonêd yn gwneud y tro’r un fath, yn well ac yn rhatach.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​