St Peter’s Without Eirin Ysgaw a Mafon

English | Cymraeg

Ein barn ar St Peter’s Without Eirin Ysgaw a Mafon

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 135 (27 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Hwn yw’r pedwerydd cwrw i ymuno â theulu tra sobr Llanbedr-yn-Suffolk, wrth ochr Without Gwreiddiol, Without Euraidd ac Without Organig. Mae pob un ohonyn nhw’n gwbl ddi-alcohol – peth mae’r bragdy yn gwneud yn fawr ohono, gan roi ‘0.0%’ mewn rhifau mawr bras ar y label.

Yn wahanol i’r rhan fwyaf o gwrw ffrwyth buon ni’n ei flasu, dyw’r hwn ddim yn ormodol o felys. Y peth agosaf ato, o bosib’, yw cwrw ceirios (kriek) Gwlad Belg, er bod llawer mwy o frag yn hwn nag sydd yn y rheini. Fydd e ddim at ddant pawb, ond os ydych chi am fforio ffiniau’r byd diodydd dirwestol, rhowch gynnig arno.

Fel pob cwrw o’r bragdy, mae’n dod mewn potel werdd wych ar batrwm un Americanaidd o’r ddeunawfed ganrif, sy’n ychwanegu at bleser y profiad yfed. Ac mae’n addas i figaniaid.

Gallwch chi ei brynu ar-lein yn syth o’r bragdy.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​