Bavaria Wit

English | Cymraeg

Ein barn ar Bavaria Wit

Sgôr:

2/5

ABV: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: wrthi’n aros gwybodaeth
Sgôr: 2 o 5

Roedd bragdy Bavaria yn yr Iseldiroedd yn un o’r llefydd cyntaf i greu cwrw di-alcohol, gan lansio un yn ôl yn 1978. Erbyn hyn mae ganddyn nhw bedwar cwrw di-alcohol, ond anaml y gwelwn ni’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn y wlad yma. Felly, braf oedd darganfod Bavaria Wit ar y silffoedd wrth ochr eu lager safonol.

Witbier yw enw’r Iseldirwyr ar y ddiod y mae’r Almaenwyr yn ei galw’n weißbier – yn llythrennol “cwrw gwyn”, gan ei bod mor gymylog, yn ôl pob tebyg. Yn sicr, mae golwg witbier ar Bavaria Wit, ac maen ganddo’r aroglau a blasau perlysiau y byddai rhywun yn eu disgwyl mewn witbier da.

Ond, yn anffodus, mae’n rhy felys o dipyn, ac mae hynny’n difetha pob dim. A dweud y gwir, doedd dim un o’n panel profi eisiau gwagio’r botel, a doedd neb eisiau ail un.

Os ydych chi’n chwilio am witbier/weißbier di-alcohol gwerth ei yfed, gwell mynd am Maisel’s Weisseneu Franziskaner.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​