Maisel’s Weisse Alkoholfrei

English | Cymraeg

Ein barn ar Maisel’s Weisse Alkoholfrei

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 120 (24 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Mae’r teulu Maisel yn bragu cwrw yn Bayreuth, ar lannau Afon Main, ers 1887. Mae’r dref yn fwy enwog fel cyrchfan i garedigion byd opera. Ond ar sail y Maisel’s Weisse Alkoholfrei yma, dylai hefyd fod ar restr caredigion cwrw.

Mae Bragdy’r Brodyr Maisel yn creu llwyth o gwrw o bob llun a lliw, ond weissbeir (cwrw gwyn) yw eu peth mawr nhw. Nid bod pob un o’u weissbiere yn wyn, chwaeth! Maen nhw gwneud rhai tywyll, rhai euraidd, a hwn sy’n ddi-alcohol a chanddo ryw liw mêl apelgar dros ben.

Weissbier da yw Franziskaner, ond un gwirioneddol ardderchog yw Maisel’s Weisse. Mae’n tywallt yn dda gydag ewyn trwchus. Mae’n ddiod dew gyda blas weissbier cryf. Fasech chi byth yn gwybod mai cwrw di-alcohol yw e. Mae cynllun y botel yn goron ar y cyfan – dyluniad trawiadol ’30aidd yr olwg sy’n ei neilltuo oddi wrth nifer o gyrfau di-alcohol go ddiflas yr olwg sy’n llenwi’r silffoedd.

Yn debyg i Erdinger Alkoholfrei, mae Maisel’s Weisse Alkoholfrei yn cael ei farchnata yn yr Almaen fel diod iachus, isotonig, llawn fitaminau a phrin ei chalorïau. Mae’r bragdy hyd yn oed yn noddi ras 5 cilometr flynyddol yn Bayreuth.

Cawson ni Maisel’s Weisse Alkoholfrei yn ambell dafarn, a gellir ei archebu hefyd trwy’r Wise Bar Tender, siop ar-lein newydd yn Wiltshire.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​