BrewDog Lost AF

English | Cymraeg

Ein barn ar BrewDog Lost AF

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob can: wrthi’n aros gwybodaeth
Sgôr: 4 o 5

Roedd y bragwyr anarchaidd BrewDog o’r Alban ymhlith y cyntaf i syrffio’r don newydd o gyrfau prin-eu-halcohol, gan lansio’r enwog Nanny State yn 2011. Maen nhw wrthi o hyd yn creu cyrfau llai cryf newydd, gan gynnwys Lost AF yn 2020, fersiwn dirwestol o’u Lost Lager.

Mae hi’n ddiod wych yr olwg mewn can diwydiannol ei ddiwyg gyda lliwiau arian, du ac aur. Yn y gwydryn, mae’n gwrw melyn clir a gwelw gyda digon o ewyn. Mae mwy o hopys ynddo na lager arferol, ond ddylai hynny ddim synnu neb. Hopys yw hoff gynhwysyn BrewDog! At ei gilydd, dyma ddiod flasus, finiog ac adfywiol.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​