Cofiwch Dryweryn

English | Cymraeg

Cwrw o Gymru, gyda holl nodweddion lager Almaenig o safon

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 14

Mae’r cwrw yma gan gwmni Dirwest o Fro Morgannwg yn un o dri – ynghyd â chwrw melyn gyda sitrws, a chwrw gwelw.

Mae’r enw’n deyrnged i Gwm Tryweryn ym Maldwyn, a foddwyd yn 1965 er mwyn creu cronfa ddŵr i ddinas Lerpwl. Mae’r label wedi’i seilio ar y slogan a beintiwyd ar wal ysgubor yn Llanrhystud yn yr 1980au er cof am y digwyddiad.

Mae’r cwrw ei hun yn welw iawn ac ysgafn iawn, ond peidied neb â thybio bod hynny gyfystyr â dweud nad oes dim byd yma. Efallai mai peth od ei ddweud yw e am gwrw sy’n gwisgo ei Gymreictod mor falch, ond mae gan hwn holl nodweddion lager Almaenig o safon, gan gynnwys y brath chwerw sydd ar goll o gymaint o gyrfau melyn arferol. Os ydych chi ar drywydd diod sy’n parchu ei gwreiddiau, dyma le da i ddechrau.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​