Brooklyn Special Effects

English | Cymraeg

Ein barn ar Brooklyn Special Effects

Sgôr:

5/5

Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 103 (29 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Dechreuodd Bragdy Brooklyn yn fach yn yr Afal Mawr 1988, yn rhan o chwyldro cwrw crefftus yr Unol Daleithiau. Erbyn hyn, mae eu diodydd ar werth ym mhedwar ban byd, diolch i gyfres o bartneriaethau rhyngwladol llwyddiannus.

Lansiwyd Special Effects yn Sweden (lle mae’n cael ei fragu) yn 2018, gan gyrraedd yr ynysoedd hyn y flwyddyn nesaf. Yn ôl y bragwyr, roedden nhw’n ceisio creu “cwrw ar gyfer mwy o lefydd, mwy o adegau, a mwy o bobl” – un gallwch chi ei lymeitian yn eich awr ginio, cyn mynd i’r gampfa, neu wrth cadw golwg ar y plantos.

Er bod y label yn dweud mai “cwrw melyn llawn hopys” yw e, mae’n debycach o dipyn i gwrw coch traddodiadol. O ran ei liw a’i flas, mae’n gymydog agos i Ghost Ship gan Adnams. Mae ynddo fe ddigon o hopys, ond hefyd digon o frag, ac mae’n fwy tywyll o dipyn na lager arferol. Yn wir, efallai bydd caredigion y cwrw melyn yn siomedig braidd, ond dylai fod yn ffefryn gan selogion y cwrw casgen.

Daw mewn potel gyda phatrwm melyn a phorffor seicedelig, troellog. Er mwyn gwneud yn glir, o bosib, nad oedd angen alcohol er mwyn cael antur! Gallwch chi godi potelaid neu ddwy ohono yn siopau mwy Tesco.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​