Budweiser Zero

English | Cymraeg

Ein barn ar Budweiser Zero

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau per can: 46 (14 per 100ml)
Sgôr: 3 out of 5

Pan lansiwyd Budweiser Prohibition yn 2017, doedd e ddim at ein dant ni, rhaid dweud. Yn ôl pob golwg, nid ni oedd yr unig rai a gredai fod angen ei ailwampio. Yn 2020 cafodd ei ail-lansio fel Budweiser Zero, a’r bragwyr yn addo yr holl flasau Budweiser ond heb yr alcohol.


Yn sicr, mae’r ddiod newydd yn rhagori ar ei rhagflaenydd. Mae’n euraidd gyda blas ysgafn a mymryn o frag. Dyw e ddim yn gwrw cymhleth na chyffrous, ond mae’n sicr o dorri syched. Cwrw da at binci, efallai.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​