Cryfder: 0.5%
Calorïau per 100ml: 24
English | Cymraeg
Ein barn ar Lucky Saint Lemon Lager.
Sgôr:
5/5
Cryfder: 0.5%
Calorïau per 100ml: 24
Wedi’i lansio mewn da bryd ar gyfer haf 2025, Lucky Saint Lemon Lager yw’r trydydd cwrw gan y bragwyr blaengar o Lundain – gan ymuno ar y silffoedd â’u cwrw melyn gwreiddiol a’u cwrw gwelw, dwy ddiod gafodd bum seren gennym ni.
Y peth cyntaf i’w ddweud am y cwrw newydd yma yw nad siandi na Radler mohono. Ffordd go hen i greu diod fwy ysgafn a llai meddwol yw cymysgu cwrw gyda lemonêd; ond mae hefyd yn creu diod fwy melys. Sudd lemon sydd yn Lucky Saint Lemon Lager, nid lemonêd, ac mae hi’n ddiod well o dipyn o ganlyniad.
Os oes gennych chi awch am gwrw hafaidd braf sy’n cynnig rhywfaint mwy o ran blas, ewch am hwn!
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.