Drop Bear New World Lager

English | Cymraeg

Ein barn ar Drop Bear New World Lager.

Sgôr:

5/5

Cryfder: llai na 0.5%

Calorïau ymhob potelaid: 25 (8 ymhob 100ml)

Sgôr: 5 o 5

Ers ei lansio yn 2019, mae bragdy Drop Bear o Abertawe wedi mynd o nerth i nerth. Y cwrw melyn yma yw eu pedwerydd un, ynghyd â chwrw du a dau gwrw gwelw. (Dilynwch y dolenni i ddarllen ein barn ar bob un o’r tri).

Mae ganddo liw euraidd, clir. Mae ynddo fwy o hopys na lager arferol ond ddim gormod. At ei gilydd, mae’n gwrw arbennig o dda. Cewch chi ei brynu yn syth o’r bragdy neu trwy Dry Drinker.

A rhag ofn eich bod chi eisiau gwybod pa fath o greadur yw Drop Bear, cewch chi wybod y cyfan ar y tudalen smala yma ar wefan Amgueddfa Awstralia.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​