Uwe Stereo Pils Alkoholfrei

English | Cymraeg

Ein barn ar Uwe Stereo Pils Alkoholfrei

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 92 (28 ymhob 100 ml)
Sgôr: 4 o 5

Dyma adolygiad gan ein hawdur gwâdd @GlowSober

Cwrw crefftus o fragdy bach yng ngogledd yr Almaen yw Uwe Stereo Pils. Tîm o dri sy’n ei greu, gan gynnwys y bragfeistr Ludwig. Yn wahanol i rai o’r bragwyr mawr, dydyn ni ddim yn tynnu’r alcohol allan o’u cwrw i’w wneud yn ddi-alcohol. Yn lle hynny, mae gyda nhw furum arbennig nad yw’n creu fawr ddim alcohol.

Mae gan y cwrw yma arogl brag a hopys cryf, gyda rhyw flas melys a ffrwythus yn llercian yn y cefndir. Mae’n tywallt yn dda, gyda lliw ambr euraidd a chlir ac ewyn gwyn ysgafn. Pilsner yw e, felly mae e fymryn yn fwy bywiog na lager arferol. Mae’r blas yn un mwyn ar y dechrau, gan gryfhau wrth i chi ei yfed, gyda adflas dymunol. Mae’r hopys yn eithaf persawrus ond dyw hynny ddim yn dod drwodd nes i chi ei lyncu. At ei gilydd, dyma enghraifft wych o mor dda mae diod ddi-alcohol yn gallu bod! Mae’n cynnwys llai o siwgr a chalorïau na llawer math o ddiodydd ysgafn neu sudd. Mae’n isotonig ac yn cynnwys sawl maetholyn, gan gynnwys fitamin B12.

Yn fwnci bach powld o ddiod, dwi wrth fy modd efo’r botel – lliwgar, siriol a chyfoes iawn. Yr unig gwynion sydd gyda fi yw nad yw’r botel yn fwy ac nad yw’r ddiod ar gael yn fwy eang!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​