Beavertown Lazer Crush IPA

English | Cymraeg

Ein barn ar Beavertown Lazer Crush IPA

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.3%
Calorïau ymhob can: 83 (25 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Dyma adolygiad gan ein hawdur gwâdd Trevor Twohig

Bragdy modern a llwyddiannus yn Llundain yw Beavertown. Maen nhw’n enwog am ganiau unigryw, gwych, ac am amrywiadau modern diddorol ar ddiodydd traddodiadol.

O ran y ddiod yma – Lazer Crush – mae’n rhagorol. Yn wir, tasech chi ddim yn ei wybod, fyddech chi ddim yn sylwi ei fod e’n ddi-alcohol. Mae’r cryfder yn isel iawn, sy’n sicr o blesio rhai, ac mae’r cwrw yn llawn blasau sitrws, heb fod yn llethol. Diod hawdd iawn ei hyfed yw hi, ac iddi liw cymylog braidd sy’n cyd-fynd yn dda â’r blas.

Mae diwyg y can yn nodweddiadol o Beavertown: llachar, lliwgar, ac annisgwyl, gyda lliwiau oren a glas. At ei gilydd, dyma gwrw gwelw dymunol iawn a chytbwys iawn. Gallech chi fwynhau un neu ddau gartref, neu yfed llond eich bol mewn parti. Gwerth rhoi cynnig arno!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​