Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 19
English | Cymraeg
Mae’r cydbwysedd yn arbennig o dda: golau ei liw a mwyn ei flas, ond cwrw gwelw go-iawn yn ddi-os.
Sgôr:
5/5
Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 19
Os ydych chi ar drywydd cwrw gwelw sy’n eich bwrw yn eich ceg efo llond trol o hopys, nid dyma’r ddiod i chi. Os ydych chi’n hoffi’ch hopys yn gynnil a hawdd eu hyfed, ewch am hon. Mae’r cydbwysedd yn arbennig o dda: golau ei liw a mwyn ei flas, ond cwrw gwelw go-iawn yn ddi-os.
Mae digon o drwch iddo hefyd. Mae sawl cwrw di-alcohol yn methu yn hyn o beth, gan deimlo’n denau braidd, ond mae tipyn o bwysau i hwn, sy’n gwneud iddo deimlo’n debyg iawn i gwrw gwelw traddodiadol. Yn sicr, dyma un o’r cyrfau di-alcohol gorau gawson ni, ac fe wnaeth ddigon o argraff ar ein panel profi iddyn nhw fynnu rhagor ohono. Cymeradwy iawn.
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.