Big Drop Paradiso Citra IPA

English | Cymraeg

Ein barn ar Big Drop Paradiso Citra IPA

Sgôr:

5/5

Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob can: 61 (18 ymhob 100 ml)
Sgôr: 5 o 5

Dyma adolygiad gan ein hawdur gwâdd Trevor Twohig

Mae bragdy Big Drop bron yn fyd-enwog erbyn hyn! Maen nhw wedi ennill rhai o wobrau mwyaf y diwydiant diodydd, gan gystadlu yn erbyn cyrfau o gryfder arferol. Yn gwmni o ddwyrain Loegr, mae eu brand y tyfu yn raddol ond yn gyson, a’u diodydd ar gael mewn llawer man: Morrison’s a Waitrose yw’r siopau diweddaraf i’w gwerthu nhw.

Mae gan y Paradiso Citra IPA yma liw, arogl a blas rhagorol. Er bod ei liw yn olau, mae’r blas yn ddwfn. Fy unig gŵyn yw nad oes digon ohono yn y can bach! Os cwrw gwelw yw eich dewis ddiod, does dim angen i chi chwilio ymhellach am un di-alcohol. Cewch chi mo’ch siomi gan hwn!

Mae diwyg y can yn raenus a chynnil, gyda lliw gwyrdd emrallt dwfn. Dim fflach, dim ffwdan; mae’r ddiod yn siarad drosti’i hunan.

Yn ddiod ddi-alcohol eithriadol, mae’n haeddu 5 pwynt allan o 5 yn sicr. Mae Big Drop wedi rhagori arnyn nhw’u hunain. Dylech chi ei drio!

Ar ddechrau 2022, cyhoeddwyd y byddai Paradiso Citra IPA ar gael trwy'r tap mewn tafarndai Mitchells and Butlers led-led y wlad.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​